P-03-310 Polisiau'n sy'n Helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion

P-03-310 Polisiau'n sy'n Helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i feithrin polisi sy’n caniatáu i chweched dosbarth ysgolion gael eu cau, cyhyd â bod y gymuned yn cydsynio â hynny ac yn cefnogi’r penderfyniad. Dylid gwella’r broses ymgynghori i’w gwneud yn fwy cadarn, yn gryfach ac yn haws i’r cyhoedd fod yn rhan ohoni. Dylai’r cyfnod ymgynghori ganiatáu digon o amser i’r cyhoedd gael y wybodaeth angenrheidiol ac i weithredu’n unol â’r wybodaeth honno.


Prif ddeisebydd:
Mrs Mandy Howells


Nifer y deisebwyr:
112 (Casglodd y deisebwr 2,119 o lofnodion ar ddeiseb arall debyg)

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Dogfennau