P-03-260 Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll
P-03-260 Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael
â phroblem gynyddol llygredd golau yng Nghymru. Mae llygredd golau’n deillio o ganlyniad i wastraffu golau, sy’n golygu gwastraffu
ynni. Mae’r ymgyrch dros ffurfafen
dywyll yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i roi canllawiau clir i awdurdodau lleol Cymru ynghylch llygredd golau. Dylai canllawiau o’r fath geisio
lleihau llygredd golau drwy bennu
cyfyngiadau clir ar gyfer goleuo
ym mhob cais
cynllunio, a thrwy roi dyletswydd ar awdurdodau lleol
i leihau faint o olau a wastreffir yn eu
hardal.
Prif ddeisebydd:
Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll
Nifer y deisebwyr:
1643
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Dogfennau