Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i
anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n
cynnal ymgynghoriad ar faterion penodol.
Mae'r Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad yn dilyn cais
gan y Prif Weinidog. Bydd adroddiad y Pwyllgor yn llywio trafodaeth Llywodraeth
Cymru ynghylch cynnwys Gorchymyn Anghymhwyso nesaf Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, y bydd angen penderfynu arno cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai
2016. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw trafod y canlynol:
- yr egwyddorion
sy'n sail i ddynodi'r swyddi sy'n anghymwyso person rhag bod yn aelod o
Gynulliad Cenedlaethol Cymru a nodir yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Anghymhwyso) 2010 a, cyhyd ag y bo modd, argymell rhestr newydd o
swyddi a'r mathau o gyflogaeth sy'n anghymwyso;
- yr amser pryd y
daw anghymwysiadau i rym;
- a ddylai'r Cyfrin
Gyngor lunio Gorchmynion Anghymhwyso yn ddwyieithog; ac
- unrhyw faterion
eraill sy'n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o'r Cynulliad.
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystoliaeth am y testun yma
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2014
Dogfennau
- Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru: Adroddiad - Gorffennaf 2014
- Llythyr wrth y Prif Weinidog i Gadeirydd y Pwyllgor, 3 Awst 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 168 KB
- Gohebiaeth wrth y Prif Weinidog, 16 Mai 2014
PDF 209 KB
- Gohebiaeth wrth y Prif Weinidog, 6 Mawrth 2014 (Saesneg yn unig)
PDF 116 KB
- Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd, 27 Ionawr 2014 (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB
- Llythyr gan y Pwyllgor Desiebau i Gadeirydd y Pwyllgor, 6 Chwefror 2013 (Saesneg yn unig)
PDF 452 KB
Ymgynghoriadau