Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru
Cwrdd â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru
Ar 20 Mai 2014, cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith
pellach ar yr adroddiad a ganlyn: 'Cwrdd â'r heriau ariannol sy'n wynebu
Llywodraeth Leol yng Nghymru'. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ystyried pa
waith cynllunio roedd awdurdodau lleol wedi'i wneud i gwrdd â'r heriau ariannol
hyn, ac yn awyddus bod gwaith y Pwyllgor yn bwydo i mewn i waith craffu'r
Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb.
Gwnaed y gwaith mewn dau gam.
Cam cyntaf –
ystyried y trefniadau gwaith rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru ynghylch y setliad llywodraeth leol, er mwyn sicrhau eu bod yn
cydweithio i drafod a datrys eu safbwyntiau gwahanol o ran amseriad cael
gwybodaeth am y setliad blynyddol, ac er mwyn sefydlu cyd-ddealltwriaeth o ddibenion
y setliad a’r terfynau amser ar gyfer rhannu gwybodaeth.
Ail gam –
herio arweinwyr llywodraeth leol ynghylch yr angen i wneud rhagor i fynd i’r
afael â’r heriau ariannol ac ystyried a yw’r posibilrwydd o sicrhau arbedion
pellach yn cael ei rwystro gan ddiffyg eglurder ynghylch ffiniau llywodraeth
leol yng Nghymru yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys ystyried yr adroddiad trosolwg
cenedlaethol sydd ar y gweill gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n trafod
ansawdd ac effeithiolrwydd trefniadau cynllunio ariannol awdurdodau lleol, ac
agweddau ar adroddiad diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr astudiaeth
gwella llywodraeth leol, sy’n ymdrin â threfniadau craffu.
Yn ystod ei gyfarfod ar 6 Hydref 2015, ystyriodd y
Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru (14 Medi 2015) a nododd ei fod
yn annhebygol y bydd yn ailedrych ar y mater cyn diwedd Tymor y Cynulliad hwn.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/05/2014
Dogfennau
- Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (29 Medi 2015) PDF 167 KB
- Llythyr gan Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru (14 Medi 2015) (Saesneg yn unig) PDF 179 KB
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru (24 Mehefin 2015) PDF 177 KB
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Cydnerthedd Ariannol Cynghorau Cymru (14 Mai 2015) (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (13 Tachwedd 2014) (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan Gyngor Bro Morgannwg at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (13 Tachwedd 2014) (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (10 Tachwedd 2014) (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (6 Tachwedd 2014) (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cymru (22 Gorffennaf 2014) (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (8 July 2014) (Saesneg yn unig) PDF 69 KB
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol a Chymunedau (1 Gorffennaf 2014) (Saesneg yn Unig)