P-03-188 Uned Gofal Arbennig i Fabanod

P-03-188 Uned Gofal Arbennig i Fabanod

Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn protestio yn erbyn israddio Uned Gofal Arbennig i Fabanod Ysbyty Brenhinol Morgannwg o uned gofal dwys lefel 3 i uned dibyniaeth mawr.

Er ein bod yn deall yr angen i sicrhau bod y lefelau staffio’n ddigonol a bod gan y staff y cymwysterau addas i sicrhau bod cleifion yn ddiogel, rydym yn gresynu wrth y diffyg buddsoddi sydd wedi arwain at y sefyllfa hon.

Rydym felly yn ceisio’r sicrwydd mai rhywbeth dros dro am yr amser byrraf bosibl yw’r israddio hwn, ac y bydd yr uned yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei hailsefydlu fel uned gofal dwys lefel 3 lawn.

Prif ddeisebydd:
Zoe Walters

Nifer y deisebwyr:
2340

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Dogfennau