P-04-523 Diogelu’r Henoed a Phobl sy’n Agored i Niwed mewn Cartrefi Gofal
P-04-523 Diogelu’r Henoed a Phobl sy’n Agored i Niwed mewn Cartrefi Gofal
Rydym ni, sydd wedi llofnodi
isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i’r digwyddiadau a arweiniodd at Ymgyrch Jasmine, a
ymchwiliodd i honiadau o esgeulustod mewn cartrefi nyrsio yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol: Gan i
Ymgyrch Jasmine fethu, wedi i’r heddlu ymchwilio i dros 100 o achosion o
esgeulustod honedig a gwario dros £13 miliwn, ni chafwyd cyfiawnder i’r rhai a
gafodd eu hesgeuluso ac nid yw’r rhai a oedd yn gyfrifol am yr esgeulustod wedi’u
dwyn i gyfrif. Rydym yn galw am Ymchwiliad Cyhoeddus i sicrhau bod yr holl
agweddau ar y rhesymau dros yr esgeulustod yn cael eu harchwilio’n llawn a bod
deddfwriaeth newydd yn cael ei phasio i wneud yn siŵr bod pobl mewn cartrefi nyrsio’n cael gofal gwell ac,
os nad yw hynny’n digwydd, eu bod yn gallu troi at yr asiantaethau priodol a’r
system gyfreithiol i unioni camweddau.
Prif ddeisebydd: Cyfiawnder i Jasmine
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 10 Rhagfyr 2013
Nifer y llofnodion: 4216
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2013
Angen Penderfyniad: 25 Rhag 2013 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad