P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol
P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol
Rydym ni, y rhai
sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun
ciniawau poeth am ddim i bob plentyn mewn dosbarthiadau derbyn, blwyddyn1 a
blwyddyn 2.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae nifer o astudiaethau wedi dangos fod bod â chwant bwyd yn effeithio ar y
gallu i ganolbwyntio, a bod plant syn cael digon o faeth yn gwneud yn well yn yr
ysgol. Byddai ymestyn y ddarpariaeth ciniawau ysgol am ddim hefyd yn helpu teuluoedd
i dalu eu costau byw, oherwydd amcangyfrifwyd bod cinio ysgol cyffredin ar
gyfer pob plentyn yn costio £437 y flwyddyn i rieni. Mae Llywodraeth y DU wedi
cyhoeddi y bydd pob plentyn rhwng pump a saith mlwydd oed yn ysgolion y
wladwriaeth yn Lloegr yn cael ciniawau ysgol am ddim. Rydym ni or farn y dylai Llywodraeth Cymru wneud yr
un peth.
Prif ddeisebydd: Jane Dodds
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 26 Tachwedd 2013
Nifer y llofnodion:
14
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2013