Cyflog Uwch Reolwyr
Cyflog Uwch Reolwyr
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad
i gyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Penderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn er mwyn ystyried agweddau ar
werth am arian cyflog uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus. Ni ystyriodd y
Pwyllgor gyflogau unigolion, ond yn hytrach sicrhau bod digon o atebolrwydd a
thryloywder mewn perthynas â chyflog a thaliadau uwch reolwyr ar draws y sector
cyhoeddus.
Fel rhan o’r ymchwiliad, ystyriodd y Pwyllgor:
- Y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â phennu cyflogau, yn
enwedig a yw hon yn briodol ar gyfer sicrhau gwerth am arian ar draws y
sector cyhoeddus;
- Y dull o gytuno ar godiadau cyflog;
- Tryloywder tâl a gwobrwyon/buddion ee pensiynau neu ffioedd swyddogion
canlyniadau;
- Ansawdd a lefel y wybodaeth gymharol sy’n bodoli ar gyfer cyflog uwch
reolwyr ar draws y sector cyhoeddus; a
Gwerth sefydlu corff, sydd â chylch gwaith o fod â
throsolwg o gyflog / taliadau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/02/2014
Dogfennau
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Gyflog a Thaliadau Uwch Reolwyr (Wedi ei gyflawni)