Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cynhaliodd
Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru adolygiad ar y cyd
Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(BCUHB), a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2013.
Canfu’r adroddiad
ar y cyd:
- nad oedd trefniadau llywodraethu a gweithdrefnau’r Bwrdd
Iechyd yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r bwlch rhwng y ward a’r Bwrdd;
- nad oedd trefniadau llywodraethu rheolaidd o
fewn y Bwrdd Iechyd wedi rhoi digon o sylw i reoli heintiau;
- bod effeithiolrwydd y Bwrdd wedi cael ei
beryglu’n sylweddol gan fethiant yn y berthynas waith rhwng rhai uwch
arweinwyr yn y sefydliad; ac
- nad oedd gan y Bwrdd gyda’i gilydd y capasiti na’r gallu
i ddarparu lefelau priodol o waith craffu mewn perthynas â chyflenwi
gwasanaethau.
Ar ôl cyhoeddi’r
adroddiad, cynhaliodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a sut mae mynd i’r afael a hwy.
Gwnaeth y
Pwyllgor waith monitro agos ynghylch gweithredu’r argymhellion yn ei adroddiad
o fis Rhagfyr 2013, gan dderbyn diweddariadau ysgrifenedig a llafar
ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ac ystyried adroddiadau
pellach gan yr Archwilydd Cyffredinol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Rhoddodd y gwaith monitro hwn y cyfle i’r Pwyllgor ystyried sut y mae’r Bwrdd
Iechyd wedi ymateb i gael ei roi o dan fesurau arbennig gan y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mehefin 2015. Yn y cyfamser, mae Llywodraeth
Cymru wedi nodi bod y cyfnod mesurau arbennig yn debygol o bara tan fis Hydref
2017 o leiaf.
Argymhellodd y Pwyllgor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth y
dylai’r pwyllgor sy’n ei olynu fonitro cynnydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig, gan gynnwys gwasanaethau meddyg
teulu y tu allan i oriau, a’i fod yn ystyried cymryd tystiolaeth lafar bellach
gan y Bwrdd Iechyd yng ngwanwyn 2017.
Argymhellodd y
Pwyllgor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth y dylai’r pwyllgor sy’n ei olynu ystyried
ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion yn adroddiad mis Chwefror 2016
‘Materion ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr’ ac yn mynd ar drywydd y gwaith o weithredu’r camau
cysylltiedig yn rheolaidd.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2013
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac Ymatebion Cysylltiedig
- Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Rhagfyr 2013
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Chwefror 2014
- Trafod ymateb Llywodraeth Cymru – 24 Chwefror 2014
- Gwaith dilynol ar ôl cyhoeddi Adroddiad y Pwyllgor - Rhagfyr 2013 ymlaen
- Llythyr gan Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ag adroddiad Holden - 16 Tachwedd 2015 PDF 208 KB
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 30 Mehefin 2015 PDF 3 MB
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 1 Medi 2015 PDF 225 KB
- Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru - 17 Mehefin 2015
- Llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 15 Mai 2015
- Llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 13 Ebrill 2015
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 18 Tachwedd 2014
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 4 Tachwedd 2014
- Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 17 Medi 2014
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 29 Gorffennaf 2014
- Papur briffio gan Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru - Gorffennaf 2014
- Llythyr gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 29 Mehefin 2014
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – 9 Rhagfyr 2013
- Tystiolaeth yn ymwneud ag Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2013
- Llythyr ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 23 Mai 2013 (Saesneg yn unig) PDF 119 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru - 31 Hydref 2013 (Saesneg yn unig) PDF 281 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru - 15 Hydref 2013 (Saesneg yn unig) PDF 247 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - 10 Hydref 2013 (Saesneg yn unig) PDF 90 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan gyn-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 4 Hydref 2013 (Saesneg yn unig) PDF 986 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru - 2 Hydref 2013 (Saesneg yn unig) PDF 115 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan y Prif Weithredwr a oedd yn gadael ei swydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 12 Medi 2013 (Saesneg yn unig) PDF 858 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gadeirydd Grŵp Meddygon Ymgynghorol Gogledd-orllewin Cymru - 11 Awst 2013 (Saesneg yn unig) PDF 24 KB Gweld fel HTML (27) 35 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru - 2 Awst 2013 (Saesneg yn unig) PDF 319 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyfarwyddwr Llywodraethu a Chyfathrebu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 29 Gorffennaf 2013 (Saesneg yn unig) PDF 182 KB Gweld fel HTML (29) 38 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan y Prif Weithredwr a oedd yn gadael ei swydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 18 Gorffennaf 2013 (Saesneg yn unig)
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru - 12 Gorffennaf 2013 (Saesneg yn unig) PDF 6 MB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gadeirydd Pwyllgor Meddygon Ymgynghorol ac Arbenigwyr Gwynedd - 5 Gorffennaf 2013 (Saesneg yn unig) PDF 102 KB Gweld fel HTML (32) 12 KB
- Gwaith monitro a wnaed gan Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus y Pumed Cynulliad
- Llythyr gan Dr Andrew Goodall - 17 Hydref 2016 PDF 229 KB
- Llythyr gan Dr Andrew Goodall - 21 Hydref 2016 PDF 223 KB