Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Cyhoeddwyd adroddiad
Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer
Gofal Iechyd Parhaus y GIG ym mis Mehefin 2013. Er bod yr adroddiad wedi
canfod bod y fframwaith wedi darparu rhai manteision, nododd hefyd fod angen
gwneud rhagor er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phobl mewn ffordd deg a chyson.
Pan gaiff unigolion
eu nodi fel pobl sydd ag angen iechyd sylfaenol yn ôl eu hasesiad, byddant yn
gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG, sy’n becyn gofal a chymorth a
ddarperir i ddiwallu holl anghenion unigolion yn ôl eu hasesiad, gan gynnwys eu
hanghenion gofal corfforol, gofal iechyd meddwl a’u hanghenion gofal personol.
Darperir Gofal Iechyd Parhaus yn aml am y tymor hwy, er y gall fod yn
ysbeidiol, gyda rhai pobl yn newid o fod yn gymwys i beidio â bod yn gymwys, ac
fel arall. Pan fydd person yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus, mae’r GIG yn
gyfrifol am ariannu’r pecyn llawn o ofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Roedd canfyddiadau
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cwmpasu dau faes:
·
y gellid gwella’r Fframwaith mewn nifer o feysydd, ac y gellid monitro ei
effaith yn fanylach; nid yw’r Fframwaith wedi cael ei weithredu’n llawn ledled
Cymru; ac nid oes sicrwydd llawn bod penderfyniadau’n deg ac yn gyson o fewn y
Byrddau Iechyd na rhyngddynt.
·
bod risg sylweddol na fydd y prosiect cenedlaethol i ymdrin â hawliadau
ôl-weithredol yn cael ei gyflawni yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni, a bod
ôl-groniadau o hawliadau ôl-weithredol newydd wedi datblygu yn y byrddau
iechyd.
Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus sesiwn friffio ar ganfyddiadau’r adroddiad gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin at 2013. Yn sgîl y materion a
drafodwyd yn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am dystiolaeth gan
Lywodraeth Cymru, a darparwyd y dystiolaeth honno ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2013
Angen Penderfyniad: 10 Gorff 2013 Yn ôl Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau
- Adroddiad dilynol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Mawrth 2015
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 21 Gorffennaf 2015 PDF 223 KB
- Adroddiad y Plyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Rhagfyr 2013
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Chwefror 2014
- Gwaith monitro a wnaed gan Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus y Pumed Cynulliad
- Llythyr gan Dr Andrew Goodall - 18 Hydref 2016 (Saesneg yn unig) PDF 287 KB