P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnig cynllun benthyg blaendal blynyddol i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf / sy’n rhentu tai yng Nghymru.
Y bwriad yw y byddai angen i gwmnïau morgais Cymru gymryd rhan yn
y cynllun hwn hefyd, a chytuno i ofyn am ddim mwy
na 5% o
flaendal ar unrhyw eiddo addas
(yn ogystal â chynnig morgeisi llog isel ‘berchen ar
yr hyn rydych
yn talu amdano).
Byddai hyn, er enghraifft, yn golygu y gellid
helpu hyd at 15,000 o bobl yng Nghymru
sy’n
prynu tŷ am y tro cyntaf (prynwyr tro cyntaf y mae
eu henillion yn is na throthwy
penodol ac sydd wedi byw neu
weithio yng Nghymru yn barhaus
am o leiaf 10 mlynedd, neu sydd â chysylltiadau
busnes llawn-amser â Chymru) gyda benthyciad
blaendal o tua £7,500 yr un ar gyfer
tŷ
pris cyfartalog, gyda’r
broses o dalu’r
benthyciad yn ôl yn cael
ei gohirio am o leiaf blwyddyn. Unwaith y bydd gwerthwyr a phrynwyr yn cytuno ar
y cynllun, byddai’r eiddo
dan sylw yn cadw ei
gymal meddiannaeth cymwys, fel sy’n digwydd
yn achos cynlluniau tebyg ym mharciau cenedlaethol
y Peak District a North York Moors.
Gwybodaeth Ategol:
Er na all Llywodraeth Cymru ymyrryd ag eiddo
preifat, mae’n bosibl y gellid annog perchnogion, gan gynnwys perchnogion
ail gartrefi, i ystyried gwerthu drwy'r cynllun os byddant
yn penderfynu gwerthu eu heiddo.
Dylai’r rheini sy’n adnewyddu eiddo adfeiliedig / ffermdai am y tro
cyntaf hefyd fod yn gymwys
ar gyfer y cynllun. Y bwriad yw y byddai asiantau
tai Cymru a’r gwerthwyr tai
yn cael ffi
misol (a delir gan y llog ar
y benthyciadau blaendal) i gymryd rhan yn
y cynllun gwirfoddol, drwy gytuno i hysbysebu,
gwerthu neu rentu yng Nghymru,
ac i ddinasyddion cymwys yng Nghymru yn
unig ar gyfer
y 6 mis cyntaf ar ôl i eiddo
gael ei roi
ar y farchnad. Ar ôl chwe
mis, byddai’n agored i unrhyw un.
Byddai'r cynllun
hwn yn helpu
i roi cyfle i deuluoedd ac unigolion i fyw a gweithio yn eu hardaloedd
au hunain a byddai’n golygu na
fyddant yn cael eu prisio
allan o'r farchnad gan gymarebau
afresymol o ran cyfartaledd
cyflog a phrisiau eiddo. Byddai hefyd
yn sicrhau bod mwy o arian
yn aros o fewn economïau lleol, gan roi
hwb i economi Cymru yn gyffredinol a’i wneud yn
fwy cynaliadwy a chynhyrchiol.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013
Nifer y llofnodion : 17
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2013