Cydymffurfiaeth â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Cydymffurfiaeth â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl ifanc wedi cynnal ymchwiliad i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:

·         yr effaith mae gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi ei chael ar bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed;

·         a yw gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi cael effaith ar nifer y bobl ifanc sy’n dewis aros mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl i addysg orfodol ddod i ben pan fyddant yn troi’n 16 oed;

·         a oes gan bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed ddewis ehangach o gyrsiau academaidd a galwedigaethol o ganlyniad i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009;

·         pa broblemau ymarferol yr ymdriniwyd â hwy er mwyn gweithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

 

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2013

Dogfennau