P-04-483 Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru
P-04-483 Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i ddatblygu polisi Cymraeg Clir/Plain English ar gyfer ei
holl gyfathrebiadau, a hefyd rydym yn
galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi o’r fath
fel bod yr iaith a ddefnyddir yn glir ac yn
ddealladwy bob amser.
Mae
siarad dwbl, iaith gyfreithiol ddiangen a defnyddio acronymau a jargon annealladwy, ar ffurf ysgrifenedig
ac ar lafar yn Siambr y Senedd, yn atal gwleidyddiaeth
yng Nghymru rhag bod mor gynhwysol
a hygyrch ag y dylai fod. Byddai polisi
iaith glir yn helpu i annog
mwy o ddiddordeb a chyfranogiad mewn gwleidyddiaeth Cymru ymysg pawb. Dylai’r polisi hefyd fod yn gymwys
i ddogfennau cyfreithiol/Biliau/Deddfau cyhyd â’u bod yn
parhau i fod yn gyfreithiol gadarn. Fel enghraifft dda o gyfathrebiad dealladwy a chlir, gellid defnyddio
templed Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr
fel templed Cymraeg cyfatebol i dempled Plain English, fel bod y defnydd o’r Gymraeg,
p’un a gaiff ei defnyddio mewn
adroddiadau gwreiddiol neu ddeunydd wedi’i
gyfieithu, yn berthnasol, modern a dealladwy,
ac nid yn gyfieithiad llythrennol, annealladwy a slafaidd o’r geiriadur o’r
fersiwn Saesneg. Mae dyletswydd ar
y Cynulliad a Llywodraeth
Cymru i sicrhau bod pob penderfyniad llywodraethu sy’n effeithio ar Gymru yn
ddealladwy i bawb, pa bynnag iaith a ddefnyddir.
Prif ddeisebydd: Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
14 Mai 2013
Nifer y llofnodion : 11
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/05/2013