P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrahau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus

P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrahau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i sicrhau, fel yn achos offer diffodd tân sylfaenol (e.e. diffoddwyr), bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael ym mhob man cyhoeddus yng Nghymru (wedi’u hariannu gan y GIG, gan elusen neu yn breifat) i sicrhau bod unrhyw un sy’n dioddef ataliad ar y galon yn cael eu trin yn gyflymGwybodaeth Ategol: Mae Cymru wedi arwain y ffordd gyda materion pwysig ynghylch iechyd y cyhoedd megis gwahardd ysmygu a rhoi organau. Yn wahanol i ddiffoddwyr tân a phecynnau cymorth cyntaf, nid oes deddfwriaeth ar hyn o bryd yn y DU i sicrhau bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael i drin pobl sy’n cael ataliad sydyn ar y galon yn gyhoeddus. Mae sawl achos amlwg diweddar wedi dangos pa mor bwysig ydynt wrth achub bywydau yn ein cymunedau.

 

 Prif ddeisebydd:  Phil Hill

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 16 Ebrill 2013

 

Nifer y llofnodion: 78

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2013