Ymchwiliad i Ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru

Ymchwiliad i Ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru. Er nad oes gan y Cynulliad unrhyw bwerau mewn perthynas â chyfraith briodasol, mae Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914, a ddatgysylltodd yr Eglwys yng Nghymru, yn rhan o gyfansoddiad Cymru ac, felly, o ddiddordeb i’r pwyllgor hwn.

 

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

  • casglu tystiolaeth arbenigol ar y cefndir cyfreithiol mewn perthynas â chyfraith eglwysig fel y mae’n effeithio ar yr Eglwys yng Nghymru;
  • casglu tystiolaeth ar y prosesau ar gyfer deddfu mewn perthynas â’r Eglwys yng Nghymru yn San Steffan;
  • casglu tystiolaeth gan yr Eglwys yng Nghymru am y ffaith ei bod wedi’i chynnwys ym Mil Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) Llywodraeth y Deyrnas Unedig;
  • gwneud argymhellion am ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru.

 

Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth lafar gan:

Yr Athro Norman Doe (CIW1)

Yr Athro Thomas Glyn Watkin (CIW2)

Y Parchedicaf Barry Morgan, Archesgob Cymru ac Esgob Llandaf (CIW3)

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/05/2013

Dogfennau