Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori
Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori
Mae pob corff sector cyhoeddus yn
cyflogi staff. Fodd bynnag, pan fydd sefydliad yn wynebu her benodol, gall
gredu nad yw ei staff yn ddigon arbenigol i fynd i’r afael â phryder, prosiect
neu fater penodol. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd sefydliadau sector
cyhoeddus weithiau’n dod ag ymgynghorydd i mewn o dan gontract dros dro.
Cyhoeddwyd
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Caffael a Rheoli Gwasanaethau
Ymgynghori ym mis Chwefror 2013. Canfu’r adroddiad, er bod cyrff cyhoeddus
bellach yn gwario llai ar ymgynghorwyr, o £173 miliwn yn 2007-08 i £133 miliwn
yn 2010-11, nad ydynt yn gallu dangos gwerth da am arian o ran cynllunio,
caffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori. Hefyd, roedd amrywiaeth sylweddol o
ran i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn arfer safonau sy'n gyffredinol
dderbyniol yn yr amryw gamau o gaffael a rheoli ymgynghorwyr.
Roedd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn credu ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad
byr i’r materion a godwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o’r ffaith
y gall caffael ymgynghorydd fod yn ffordd synhwyrol iawn o ddatrys problem neu
her benodol, ond roedd hefyd yn ymwybodol y gall dod ag ymgynghorydd i mewn dan
gontract yn awtomatig mewn ymateb i heriau newydd gynnig gwerth gwael am arian
cyhoeddus.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2013
Dogfennau