P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol
P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol
Rydym
yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i beidio â
defnyddio cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer gofal crefyddol, ac i
weithio gydag arweinyddion crefydd gyfundrefnol i sefydlu ymddiriedolaeth
elusennol i ariannu gofal crefyddol yn ysbytai Cymru.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r ymgyrch caplaniaeth
elusennol yn cynnwys rhwydwaith anffurfiol o ddinasyddion sy’n pryderu y dylid
defnyddio pob miliwn o bunnoedd o arian cyhoeddus a ddyrennir i’r GIG yng
Nghymru i hyrwyddo iechyd cyhoeddus ac i drin y rheini sydd angen sylw
meddygol.
Nid oes gan ein hymgyrch
unrhyw arian ac nid oes angen unrhyw arian arnom. Ni chaiff ei noddi gan unrhyw sefydliad arall
yng Nghymru na’r tu allan i Gymru. Mae gwasanaethau modern sy’n seiliedig ar y
rhyngrwydd yn caniatáu i ni gyfathrebu â’n gilydd ac â’n cynrychiolwyr sydd
wedi’u hethol yn ddemocrataidd.
Mae ein cefnogwyr i gyd wedi
gweld dwy ddogfen sydd wedi’u darparu i gefnogi’r ddeiseb hon ac maent yn
cytuno â hwy, sef Principles, sy’n nodi ein hysgogiad, a Proposal sy’n nodi ein
hachos gyda thystiolaeth ategol a dadl resymegol.
Rydym yn darparu trydedd
dogfen sef Employment, sy’n rhoi tystiolaeth o’r ffordd y caiff yr arian sy’n
cael ei dynnu o Gyllideb y GIG ar gyfer gwasanaethau caplaniaeth ysbytai ei
wario ar hyn o bryd.
Prif ddeisebydd: Yr Ymgyrch Caplaniaeth
Elusennol
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 19 Chwefror 2013
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried