Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg
Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg
Mae Aelodau wedi cytuno i
gynnal ymchwiliad byr i ganfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd
Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg a gyhoeddwyd ar 8 Hydref 2012. Mae cylch gorchwyl ein hymchwiliad fel a
ganlyn:
Mae'r Pwyllgor yn bwriadu
archwilio:
- gweithredoedd Llywodraeth Cymru i'w sicrhau ei hun
bod fframweithiau gwneud penderfyniadau cymeradwy ar waith ar gyfer
Byrddau Draenio yng Nghymru;
- rôl Llywodraeth Cymru o ran gweithio â Chil-y-coed
a Gwastadeddau Gwynllŵg i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen;
- dyfodol Byrddau Draenio Mewnol yng Nghymru;
- rôl gweision sifil a pham na chafodd pryderon eu
codi'n gynt;
- presenoldeb awdurdodau lleol ar fyrddau a chyrff
cyhoeddus;
- methodoleg Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer
archwilio cyrff cyhoeddus bach, yn enwedig ei dull o archwilio cyfrifon
Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg ar gyfer
2010-11.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/04/2013
Dogfennau