P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg
P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i achub ein gwasanaethau
iechyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Mae penderfyniad
yn cael ei wneud a fydd, os caiff ei roi ar waith, yn arwain at golli rhai
agweddau ar ofal pediatrig, obstetreg, newydd-anedig a damweiniau ac achosion
brys. Yn syml, os oes angen gofal dwys
arnoch, os oes gennych blentyn sâl neu os ydych yn debygol o gael beichiogrwydd
a allai fod yn gymhleth, bydd rhaid i chi deithio i Gaerdydd, Merthyr neu
Ben-y-bont ar Ogwr. I breswylwyr
Rhondda Cynon Taf sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallai hyn olygu
teithio am dros ddwy awr i fynd i apwyntiadau hanfodol. Mae preswylwyr Rhondda Cynon Taf sydd wedi
llofnodi isod yn cefnogi’n gryf opsiwn 5.2 o dan y cynigion a amlinellwyd yn y
ddogfen ymgynghori ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau iechyd, “Gwneud Cystal â
Goreuon y Byd — yr Heriau sy’n Wynebu Gwasanaethau Ysbyty yn Ne Cymru”. Rydym
hefyd yn cefnogi’r galw i gadw a datblygu cyfleusterau a gwasanaethau Ysbyty Brenhinol
Morgannwg i sicrhau bod pobl Rhondda Cynon Taf yn gallu derbyn a chael gafael
ar y gwasanaethau y maent yn eu haeddu o fewn ffiniau’r sir.
Prif ddeisebydd: Cyng. Mark Adams
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Ionawr 2013
Nifer y llofnodion: 1077
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2016