Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ynni

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ynni

Mae’r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn perthyn â darpariaethau ym Mil Ynni y DU sy’n ceisio sefydlu safonau perfformiad allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bŵer tanwydd ffosil ei allyrru mewn blwyddyn.

 

Ceir lincs i’r holl ddogfennau y cyfeirir atynt ar y tudalen hwn isod, gwelwch: Ffynonellau a gwybodaeth ychwanegol.

 

Cefndir

 

Mae Bil Ynni Llywodraeth y DU (‘y Bil’) yn cael ei ystyried gan Senedd y DU ar hyn o bryd [Ionawr 2013]. Cafodd ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae bellach wedi cyrraedd cyfnod y Pwyllgorau yn Nhŷ’r Cyffredin.

 

Diben rhai adrannau o’r Bil hwn yw deddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n ofynnol, yn ôl confensiwn, bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru (‘y Cynulliad’) yn ystyried cydsynio â hyn. Mae’r Cynulliad yn gwneud hyn drwy ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae rhagor o wybodaeth am gynigion cydsyniad deddfwriaethol i’w chael yn hysbysiad hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6 - Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

Mae’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi ei ddrafftio fel a ganlyn:

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Ynni sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad ynghylch allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bwer tanwydd ffosil newydd (h.y. un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy “naturiol”) ei ollwng, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol (‘y memorandwm’) ar 5 Rhagfyr 2012 sy’n esbonio hyn mewn rhagor o fanylder.

 

Yn bennaf, mae’r memorandwm yn nodi bod y darpariaethau yn y Bil y gwneir cais i gael cydsyniad ar eu cyfer wedi’u cynnwys:

  • yng nghymalau 38-40; ac
  • yn Atodlen 5.

 

Diben y polisi

 

Mae paragraff 5 o’r memorandwm yn nodi diben y polisi yn fwy manwl. Ceir crynodeb byr yn y blwch isod.

 

Crynodeb o ddiben y polisi

 

Mae’r elfennau o’r Bil y gwneir cais i gael cydsyniad ar eu cyfer yn ceisio gwneud yr hyn a ganlyn:

 

-        creu dyletswydd i beidio â mynd y tu hwnt i derfyn allyriadau carbon deuocsid blynyddol;

-        darparu ar gyfer atal y terfyn allyriadau o dan amgylchiadau eithriadol; a

-        chreu dyletswydd i roi trefniadau monitro a gorfodi ar waith.

 

Mae memorandwm Llywodraeth Cymru yn nodi:

 

Nod y darpariaethau hyn yw safoni ar draws y DU lefel yr allyriadau Carbon Deuocsid a ganiateir ar gyfer cynhyrchu trydan a sicrhau safon amgylcheddol gyffredinol ar gyfer y DU er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â thargedau ynghylch y Newid yn yr Hinsawdd.

 

Bydd y darpariaethau hyn, os y byddant yn cael eu rhoi ar waith yng Nghymru, yn adlewyrchu’r rhai a fydd yn gymwys yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

 

 

Ffynonellau a gwybodaeth ychwanegol

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2016

Dogfennau