Bolisi dŵr yng Nghymru

Bolisi dŵr yng Nghymru

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad byr i bolisi dŵr yng Nghymru.

Diben yr ymchwiliad oedd:

  • Asesu goblygiadau'r Bil Dŵr drafft i Gymru, yn enwedig o ran cystadleuaeth yn y farchnad annomestig.
  • Asesu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â materion fforddiadwyedd dŵr ar gyfer cartrefi.

Bu’r Pwyllgor yn ystyried:

  • Pa effaith fydd y Bil Dŵr drafft yn ei chael ar gystadleuaeth yn y farchnad annomestig yng Nghymru?
  • A oes unrhyw faterion penodol a allai godi o gael cyfundrefnau marchnad gwahanol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer cwsmeriaid annomestig, yn enwedig mewn ardaloedd ar y ffin?
  • Pa ddulliau sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i sicrhau fforddiadwyedd dŵr yn y farchnad ddomestig?
  • Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar ei ymrwymiadau a nodir yn niweddariad y Rhaglen Lywodraethu (Mai 2012)?
  • A ddylai'r Llywodraeth fod yn gwneud unrhyw beth arall i sicrhau fforddiadwyedd dŵr yn y farchnad ddomestig?
  • Gyda golwg benodol ar fforddiadwyedd a chystadleuaeth, beth ddylai Llywodraeth Cymru ei gynnwys yn y Strategaeth Dŵr sydd ar y gweill?

 

 

Tystiolaeth fideo

 

Mae’r tîm  Allgymorth wedi cynhyrchu pecyn fideo sydd yn cynnwys cyfraniadau gan fusnesau a sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus.

 

Pwrpas y fideo yw dangos beth yw cryfderau a gwendidau’r system gyfredol ym marn busnesau ac aelodau o staff sy’n gweithio i gyrff y sector cyhoeddus, ac i esbonio cryfderau a gwendidau posib y cynigion hyn ar eu sefydliad.

 

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/05/2013

Y Broses Ymgynghori

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar  1 Mawrth 2013.

 

Dogfennau