P-04-437 : Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref

P-04-437 : Gwrthwynebu cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi’r gorau i gynlluniau ar gyfer cyflwyno cofrestr orfodol ar gyfer plant sy’n derbyn addysg yn y cartref fel rhan o Fil Addysg (Cymru) drafft. Mae’r gyfraith yn nodi mai rhieni, nid y wladwriaeth, sy’n gyfrifol am addysg eu plant, sy’n golygu bod cofrestr o’r fath yn amhriodol ac yn ddiangen.

Prif ddeisebydd:  Wendy Charles-Warner

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  20 Tachwedd 2012

 

Nifer y llofnodion:  1614

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;