P-04-434 : Mae’r Cymry a’r Somalïaid fel ei gilydd yn caru barddoniaeth

P-04-434 : Mae’r Cymry a’r Somalïaid fel ei gilydd yn caru barddoniaeth

Geiriad y ddeiseb

 

Cynnig:  Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sef cenedl sy’n enwog yn fyd-eang am garu barddoniaeth, i ganmol y cariad tebyg ymysg ei dinasyddion o dras Somalïaidd yn hynny o beth, y mae eu diwylliant traddodiadol yn ystyried mai barddoniaeth yw’r dull craidd o fynegi mewn diwylliant.  Daw ein galwad ar ddechrau’r Cadoediad Olympaidd, sef y cyfnod a arferai ddechrau wythnos cyn y Gemau Olympaidd yn yr hen oes, a gorffen wythnos ar ôl iddynt ddod i ben, gan alluogi athletwyr i deithio’n ddirwystr drwy diroedd gelynion traddodiadol i gystadlu yn unol ag ymdeimlad ekecheiria, sef dal dwylo.  A ninnau’n ddinasyddion Cymru, yn caru barddoniaeth, ac wedi ymrwymo i ymdrechu i sicrhau heddwch ym mhob gwlad, a rhwng y gwledydd, rydym yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd, yn ein barn ni, yn uno’r gwerthoedd hyn.  Rydym yn gwahodd pawb i ychwanegu eu henw at y ddeiseb, a gobeithiwn y byddwch yn hyrwyddo cysylltiadau rhwng cymunedau yn ein dwy wlad. 

Prif ddeisebydd:  Mr Abdikarim Abdi Adan

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  6 Tachwedd 2012

 

Nifer y llofnodion:  30

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;