Cyflwr anniogel tai cymdeithasol
Cyflwr anniogel tai cymdeithasol
Inquiry1
Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi
cytuno i gynnal ymchwiliad undydd a fydd yn canolbwyntio ar ymateb landlordiaid
cymdeithasol i gyflwr anniogel tai cymdeithasol, a'r camau y mae Llywodraeth
Cymru wedi'u cymryd i wella prosesau i nodi a atgyweirio peryglon.
Bydd ymchwiliad
byr yn edrych ar y canlynol:
>>>>
>>>Raddfa’r
diffyg atgyweirio peryglus mewn tai cymdeithasol yng Nghymru, lefel y risg
iechyd y mae tenantiaid yn ei wynebu, a sut mae cyflwr tai ac ymatebion i
ddiffyg atgyweirio yn cael eu monitro;
>>>Pa
mor effeithiol y mae landlordiaid cymdeithasol yn ymateb ar hyn o bryd i
adroddiadau am ddiffyg atgyweirio peryglus, yn enwedig problemau gyda lleithder
a llwydni;
>>>Creu
rheol newydd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Safon Ansawdd Tai Cymru sy'n ei
gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol ymchwilio i rai peryglon a'u
cywiro o fewn amserlenni penodol, gan gynnwys:
>*>*>*
***y rhesymeg
sy’n sail i’r dull hwn a pha mor effeithiol y mae'n debygol o fod; ac
***yr effaith
ddisgwyliedig ar denantiaid a landlordiaid;
<*<*<*
>>>Pa
gamau rhagweithiol y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu cymryd i nodi ac
unioni diffyg atgyweirio peryglus yn eu stoc tai; a
>>>Sut
mae Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol yn ymgysylltu â thenantiaid
ac yn eu cynnwys mewn materion sy'n ymwneud â diffyg atgyweirio peryglus.
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2026
Ymgynghoriadau
- Cyflwr anniogel tai cymdeithasol (Rhedeg hyd 13/02/2026)