P-06-1542 Ymrwymo i gefnogi dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain
P-06-1542 Ymrwymo i gefnogi dyfodol Ysgol Gymraeg Llundain
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Glenys Roberts, ar ôl casglu 1,837 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae Llywodraeth Cymru
wedi cyhoeddi ei bod am dynnu ei grant blynyddol o £90,000 yn ôl o fis Mawrth
2026. Heb y grant hwn, bydd yr ysgol yn cau gan chwalu’r modd mwyaf effeithiol
o hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn Llundain.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Daw’r grant o
strategaeth ‘Cymraeg 2050’, sy’n anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y £90k hwn yn dal i gael ei ddefnyddio
i hyrwyddo'r iaith yn Llundain, ond nid yw wedi rhoi manylion ynghylch sut yn
union. Mae'n amlwg mai y ffordd orau o hyrwyddo unrhyw iaith yw addysgu y
genhedlaeth nesaf o siaradwyr rhugl. Mae'r ysgol yn dod dros effeithiau covid
ac yn tyfu mewn nifer. Nawr yw'r amser i fuddsoddi yn nyfodol yr ysgol, nid i
dorri'r cyllid yn ôl.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 26/01/2026 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2026.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Clwyd
- Gogledd Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/01/2026