P-06-1551 Atal newidiadau niweidiol Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG
P-06-1551 Atal newidiadau niweidiol Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Jeff Goodwin, ar ôl casglu 571 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth
Cymru i atal y newidiadau arfaethedig i wasanaethau deintyddol y GIG a fydd yn
effeithio'n sylweddol ar fynediad at ofal, yn enwedig i bobl ag anableddau,
pobl â chyflyrau iechyd meddwl, ac unigolion sydd ag ofn deintyddion.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae'r newidiadau
hyn yn arwain at risg o nifer lai o apwyntiadau ar gael, cynyddu amseroedd
aros, a rhoi mwy o bwysau ar bractisau deintyddol sydd eisoes yn cael trafferth
bodloni'r galw. Mae llawer o bobl ag anableddau neu anghenion cymhleth eisoes
yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at ofal deintyddol - gan gynnwys diffyg
hygyrchedd corfforol, gorlwytho synhwyraidd, anawsterau cyfathrebu, a
gorbryder.
Bydd diwygio'r
system heb ymgynghori â chleifion, a heb gefnogaeth gref i gleifion, yn
gwaethygu'r problemau hyn. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y
newidiadau hyn ac yn hytrach buddsoddi mewn sicrhau bod deintyddiaeth y GIG yn
fwy hygyrch, cynhwysol ac ymatebol i anghenion cleifion sy'n agored i niwed.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 09/02/2026 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2026.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Bro Morgannwg
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/01/2026