P-06-1551 Atal newidiadau niweidiol Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG

P-06-1551 Atal newidiadau niweidiol Llywodraeth Cymru i ddeintyddiaeth y GIG

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jeff Goodwin, ar ôl casglu 571 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal y newidiadau arfaethedig i wasanaethau deintyddol y GIG a fydd yn effeithio'n sylweddol ar fynediad at ofal, yn enwedig i bobl ag anableddau, pobl â chyflyrau iechyd meddwl, ac unigolion sydd ag ofn deintyddion.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae'r newidiadau hyn yn arwain at risg o nifer lai o apwyntiadau ar gael, cynyddu amseroedd aros, a rhoi mwy o bwysau ar bractisau deintyddol sydd eisoes yn cael trafferth bodloni'r galw. Mae llawer o bobl ag anableddau neu anghenion cymhleth eisoes yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at ofal deintyddol - gan gynnwys diffyg hygyrchedd corfforol, gorlwytho synhwyraidd, anawsterau cyfathrebu, a gorbryder.

 

Bydd diwygio'r system heb ymgynghori â chleifion, a heb gefnogaeth gref i gleifion, yn gwaethygu'r problemau hyn. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y newidiadau hyn ac yn hytrach buddsoddi mewn sicrhau bod deintyddiaeth y GIG yn fwy hygyrch, cynhwysol ac ymatebol i anghenion cleifion sy'n agored i niwed.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 09/02/2026 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2026. 

 

A person in blue scrubs and a mask with a patient in a chair

AI-generated content may be incorrect.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/01/2026