P-06-1540 Cael gwared ar y system gyllido ystrywus sy'n gorfodi myfyrwyr i astudio Bagloriaeth Cymru
P-06-1540 Cael gwared ar y system gyllido ystrywus sy'n gorfodi myfyrwyr i astudio Bagloriaeth Cymru
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Ioan Armstrong, ar ôl casglu 1,125 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Ioan Armstrong a
Sam Bartlett: Rydym yn fyfyrwyr Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr, Campws y Graig,
Llanelli, ac rydym wedi dechrau’r ddeiseb hon fel llwyfan o blaid dewis
myfyrwyr ac yn erbyn cymhwyster gorfodol Bagloriaeth Cymru.
Er gwaethaf yr
honiadau gan Lywodraeth Cymru nad yw'r cymhwyster hwn yn orfodol, gwnaethom
ddarganfod cynllun cyllido ystrywus drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth sy'n dangos
bod colegau'n derbyn £1,000+ mewn cyllid ychwanegol fesul myfyriwr trwy orfodi
Bagloriaeth Cymru arnynt.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Cais Rhyddid
Gwybodaeth: £3,606/myfyriwr am 3 chymhwyster Safon Uwch/UG heb gymhwyster
Bagloriaeth Cymru, £4620/myfyriwr am 3 chymhwyster Safon Uwch/UG + cymhwyster
Bagloriaeth Cymru.
Ymchwil y Senedd:
Yn ôl y myfyrwyr a ymatebodd i’r ymgynghoriad, mae Bagloriaeth Cymru yn “cymryd
llawer o amser” ac nid ydynt yn gweld gwerth y cymhwyster.
Comisiynydd Plant
Cymru: Roedd yn feirniadol o darged Llywodraeth Cymru o fabwysiadu Bagloriaeth
Cymru yn gyffredinol (“target of universal adoption”). NID yw mabwysiadu
Bagloriaeth Cymru yn gyffredinol er budd gorau pob dysgwr ifanc.
Deddf Addysg
Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014: Mae’r Ddeddf hon yn
sicrhau ansawdd ac atebolrwydd mewn addysg bellach, ond mae wedi’i thanseilio
gan bwysau ariannol a diffyg eglurdeb o ran statws Bagloriaeth Cymru fel
cymhwyster nad yw'n orfodol.
Deddf Addysg
Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022: Mae’r Ddeddf hon yn nodi disgwyliad
cyfreithiol clir bod sefydliadau’n darparu addysg o’r ansawdd uchaf posibl.
Mae’r Ddeddf wedi’i thanseilio oherwydd bod colegau'n cael eu cosbi'n ariannol
os nad yw myfyrwyr yn cofrestru i astudio Bagloriaeth Cymru.
Mae WalesOnline
wedi cyhoeddi erthygl am ein hymgyrch.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Llanelli
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/11/2025