Mewnfuddsoddi
Mewnfuddsoddi
Inquiry2
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig wedi’i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i
ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn
cynnwys busnes, datblygu economaidd, sgiliau, masnach ryngwladol,
amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.
Mae'r Pwyllgor yn
cynnal ymchwiliad i Fewnfuddsoddi.
Cylch gorchwyl
Yn benodol, bydd
y Pwyllgor yn ystyried:
>>>>
>>>Pa
mor effeithiol yw dull Llywodraeth Cymru o ddenu mewnfuddsoddwyr i Gymru, a
beth yw ei brif gryfderau a'i wendidau? Sut y dylid mynd i'r afael ag unrhyw
wendidau canfyddedig?
>>>I ba
raddau y mae dull Llywodraeth Cymru o ddenu mewnfuddsoddi yn targedu meysydd
cryfder o fewn economi Cymru? Pa mor llwyddiannus yw hi o ran manteisio ar
gyfleoedd mewn sectorau newydd sydd â’r potensial i chwarae rôl allweddol yn
economi'r dyfodol?
>>>Pa
mor dda y mae gwahanol haenau’r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i ddod â
mewnfuddsoddi i Gymru, ac a oes unrhyw welliannau y gellid eu gwneud?
>>>Pa
mor effeithiol yw Llywodraeth Cymru o ran darparu cymorth parhaus i
fewnfuddsoddwyr, ac i ba raddau y mae hyn yn cefnogi buddsoddwyr presennol i
ehangu neu ddiogelu eu gweithrediadau yng Nghymru?
>>>Beth
yw'r rhwystrau allweddol y mae Cymru yn eu hwynebu wrth ddenu a chadw
mewnfuddsoddi, a sut y dylid mynd i'r afael â'r rhain?
>>>Pa
enghreifftiau o arfer gorau o'r tu hwnt i Gymru y gallai Llywodraeth Cymru
ddysgu ohonynt mewn perthynas â denu mewnfuddsoddi a darparu cefnogaeth barhaus
i fewnfuddsoddwyr?
>>>I ba
raddau mae'r data sydd ar gael yn darparu darlun clir a chynhwysfawr o
fewnfuddsoddi yng Nghymru, ac a oes unrhyw welliannau y dylid eu gwneud?
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2025
Dogfennau