P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru
P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Royal College of Nursing Wales, ar ôl casglu cyfanswm o 10,536
lofnodion
Geiriad y
ddeiseb:
Yng Nghymru, mae cleifion
ar hyn o bryd yn cael gofal ar drolïau neu mewn cadeiriau am oriau maith, yn
aml am ddyddiau, mewn poen a dioddefaint. Mae meddygon, nyrsys a staff gofal
iechyd yn cael eu gorfodi i drin a gofalu am gleifion mewn coridorau, meysydd
parcio, a mannau eraill lle nad yw gofal diogel ac urddasol yn bosibl a lle nad
oes ganddynt offer achub bywyd wrth law.
Mae Coleg Nyrsio
Brenhinol Cymru a BMA Cymru ar y cyd yn canu larwm am ddiogelwch cleifion er
mwyn i Lywodraeth Cymru roi diwedd ar ofal mewn coridorau.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae’r Coleg
Nyrsio Brenhinol a’r BMA yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i
wneud y canlynol:
1. Dechrau
cofnodi ac adrodd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru, gan ddechrau drwy ei
wneud yn 'ddigwyddiad byth' i gleifion gael gofal mewn cadeiriau am fwy na 24
awr.
2. Rhoi saib ar
leihau nifer y gwelyau yn ysbytai GIG Cymru. Adolygu capasiti yn genedlaethol a
darparu cynllun gweithlu clir, wedi’i gostio, i sicrhau bod ysbytai a
lleoliadau gofal ehangach yn gallu bodloni’r galw yn y dyfodol.
3. Buddsoddi mewn
gofal yn y gymuned drwy:
• gynyddu nifer y
nyrsys ardal (a nyrsys â gradd meistr mewn nyrsio cymunedol) yn ôl i lefelau
2010, a’r tu hwnt i’r rheini, i fodloni'r galw.
• adfer cyfran
cyllid GIG Cymru mewn practisau cyffredinol i lefelau hanesyddol, gydag
uchelgais i’w chynyddu, fel ein bod yn hyfforddi, yn recriwtio ac yn cadw digon
o feddygon teulu i symud tuag at nifer cyfartalog yr OECD o feddygon teulu
fesul 1000 o bobl.
4. Rhoi
blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal afiechyd. Mae angen i ofal brys ofal
brys cynaliadwy gael ffocws cryf ar iechyd y boblogaeth a diagnosis cynnar er
mwyn lleihau argyfyngau y gellir eu hosgoi.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 12/01/2026 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 18/11/2025.
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2025
Dogfennau