P-06-1562 Gwella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron i fenywod yng Nghymru
P-06-1562 Gwella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron i fenywod yng Nghymru
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Breast Cancer Now, ar ôl casglu cyfanswm o 4,254 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae sgrinio'r
fron yn achub bywydau rhag canser y fron. Ond mae targedau ar gyfer menywod sy'n
cael eu sgrinio yng Nghymru yn cael eu methu. Yn 2022-23, dim ond 69.5% o
fenywod a wahoddwyd i sgrinio a ddefnyddiodd eu hapwyntiad - sy’n is nag
isafswm y safon o 70% a'r targed o 80%.
Pe bai'r targed o
80% yn cael ei gyrraedd, byddai 15,871 yn fwy o fenywod wedi cael eu sgrinio ac
amcangyfrifir y byddai 154 yn fwy o ganserau'r fron wedi'u canfod.
Rhaid i
Lywodraeth Cymru gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bron Brawf Cymru i wella'r
nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron, a mynd i'r afael ag
anghydraddoldebau.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Dylai Llywodraeth
Cymru ymrwymo i wella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron yng Nghymru
er mwyn cyrraedd isafswm y safon o 70% yn gyson a chyrraedd y targed o 80%.
Dylai Llywodraeth
Cymru hefyd ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at
sgrinio’r fron, sy'n effeithio ar gymunedau ethnig lleiafrifol, y rhai sydd o
dan anfantais economaidd-gymdeithasol a grwpiau na chânt eu gwasanaethu. Daw
Strategaeth Tegwch Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru 2022–25 i ben eleni.
Er mwyn gwella’r
nifer sy’n gwneud defnydd, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, dylai
Llywodraeth Cymru roi cymorth ac adnoddau i Bron Brawf Cymru a’i alluogi i:
• Gyflwyno
ymgyrch ymwybyddiaeth sgrinio'r fron, gyda ffocws ar ardaloedd a chymunedau lle
mae niferoedd y defnydd yn isel
• Darparu
llwybrau mwy cyfleus a hyblyg i wasanaethau sgrinio’r fron, gan gynnwys mwy nag
un opsiwn i drefnu apwyntiadau
• Gwella’r gwaith
o adrodd ar ddata ac atebolrwydd trwy gyhoeddi data rheolaidd am y nifer sy’n
gwneud defnydd rheolaidd, gan gynnwys grwpiau ethnig lleiafrifol a rhai na
chânt eu gwasanaethu
Dylid cynnwys y
camau hyn mewn Strategaeth Tegwch Sgrinio newydd.
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd:
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/10/2025