P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo

P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo

Petitions3

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Bryony Davies, ar ôl casglu 10,867 lofnodion ar lein a 7,016 lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 17,883 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig cael gwared ar wasanaethau strôc llawn o Ysbyty Bronglais, gan orfodi cleifion o Geredigion, Powys, a De Meirionnydd i wynebu trosglwyddiadau peryglus a phell i ysbytai yn Llanelli neu Hwlffordd. Rydym yn annog y Senedd a Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith, gan fynnu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn asesu'r effeithiau hyn yn llawn ac yn ymrwymo i gynnal Bronglais fel uned adsefydlu strôc, gan amddiffyn gwasanaethau iechyd hanfodol yng Nghanolbarth Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae'r ymgynghoriad yn cynnig israddio uned strôc Bronglais i fodel 'Trin a Throsglwyddo', a fyddai’n gorfodi cleifion ar daith anniogel o 90 munud hyd at ddwy awr i Lanelli neu Hwlffordd.

 

*Nid oes tystiolaeth sy’n rhoi sylw i risgiau'r trosglwyddiadau hyn o ystyried daearyddiaeth wledig, poblogaethau sy'n heneiddio a thrafnidiaeth wael.

*Bydd cefnogaeth deuluol, sy'n hanfodol ar gyfer adferiad, yn amhosibl oherwydd pellteroedd, gan niweidio canlyniadau.

*Mae Bronglais yn gyson yn sgorio'n uwch mewn archwiliadau strôc na'i gymheiriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

*Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn derbyn bod prinder staff sylweddol a chyllid ansicr, sy’n golygu bod y newidiadau hyn yn anniogel ac yn afrealistig.

*Bronglais yw'r unig Ysbyty Cyffredinol Dosbarth mewn radiws o 60–100 milltir (ar ffyrdd nad ydynt yn draffyrdd) sy'n gwasanaethu ardaloedd ymhell y tu hwnt i ffiniau ffurfiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i Dde Meirionnydd a Phowys.

 

Mae'r cynlluniau yn yr ymgynghoriad yn tanseilio egwyddorion mynediad teg at ofal iechyd, gan roi trigolion Canolbarth Cymru o dan anfantais anghymesur.

 

Rydym am i'r Senedd sicrhau gwasanaethau strôc teg a lleol yng Nghanolbarth Cymru.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

[PetitionFooter]

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/10/2025