P-06-1520 Atal yr holl daliadau arian cymorth tramor gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys i elusen "Maint Cymru"
P-06-1520 Atal yr holl daliadau arian cymorth tramor gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys i elusen "Maint Cymru"
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Robert Leggett, ar ôl casglu 1,423 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Eleni, mae Llywodraeth
Cymru wedi rhoi £775,000 (i fyny o £670,000 y llynedd) i Elusen o’r enw Maint
Cymru, dan gadeiryddiaeth y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones.
Yn ôl ei
hadroddiad blynyddol, a ffeiliwyd gyda’r Comisiwn Elusennau, mae Maint Cymru yn
dweud bod ei gwariant yn cynnwys:
- Sicrhau hawliau
tir brodorol ym Mrasil a Chenia
- Adeiladu
'gwydnwch ecosystem' ar gyfer orangwtaniaid yn Indonesia
- Hyrwyddo gwaith
rhywedd yng Nghenia a Pheriw
- Adeiladu cwch pŵer solar ym Mheriw i alluogi pobl Wampi i
lywio'r afon
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae ein ffyrdd yn
llawn tyllau.
Mae'r Senedd yn
credu ei bod yn iawn i wastraffu arian trethdalwyr ar brosiectau tramor i
borthi balchder sy'n gwneud dim i Gymru na'i phobl.
Nid oes ganddynt
unrhyw fandad gan y Ddeddf ddatganoli na’r bobl i wneud hyn. Mae’n rhaid i ni
ei atal.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 22/09/25 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 22/09/25.
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2025
Dogfennau