P-06-1517 Helpu Prifysgol Caerdydd i gadw ei chyrsiau gradd Ieithoedd Modern

P-06-1517 Helpu Prifysgol Caerdydd i gadw ei chyrsiau gradd Ieithoedd Modern

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Christie Margrave, ar ôl casglu 2,531 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae Bwrdd Gweithredol Prifysgol Caerdydd yn cynnig cael gwared ar bob gradd Ieithoedd Modern. Bydd colli darpariaeth Ieithoedd Modern yng Nghaerdydd yn effeithio’n ddifrifol ar recriwtio myfyrwyr, bywyd myfyrwyr a phosibiliadau gradd, ac yn y pen draw bydd yn niweidio enw da’r Brifysgol a’i statws yn rhyngwladol. Bydd hefyd yn niweidio dysgu ieithoedd yng Nghymru, ac unrhyw gyfle i Gymry astudio graddau ieithoedd yn eu prifddinas.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud: ‘Ein gweledigaeth yw bod Cymru’n dod yn genedl wirioneddol amlieithog. Mae’n ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ‘ehangu dysgu ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion’. Rydym am gynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hanghenion.

‘Mae Cymru’n genedl hyderus, sy’n edrych tua’r dyfodol, a byddwn yn cefnogi ein holl ddysgwyr i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd. Rydym am i’n holl ddysgwyr gyrraedd eu potensial llawn a phrofi'r manteision niferus sy’n deillio o ddysgu ieithoedd rhyngwladol, gan gynnwys ehangu eu gorwelion drwy ddysgu am bobl a diwylliannau eraill a rhoi’r sgiliau ieithyddol iddynt gystadlu yn yr economi fyd-eang.’

Dyfodol Byd-eang: Cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru 2022 i 2025 https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2023-11/atisn19152doc5a.pdf

 

Dylech gynnal hyn, a gwrthod colli rhaglenni gradd Ieithoedd Modern o’n prifddinas.

A group of people writing on a notebook

AI-generated content may be incorrect.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 22/09/25 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 22/09/25. 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/07/2025