P-06-1516 Galluogi Prifysgol Caerdydd i gadw'r cwrs gradd Nyrsio
P-06-1516 Galluogi Prifysgol Caerdydd i gadw'r cwrs gradd Nyrsio
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Cerys Flavey, ar ôl casglu 7,589 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae bwriad Prifysgol
Caerdydd i dorri'r rhaglen gradd nyrsio yn golled enfawr i ddyfodol nyrsio a'r
GIG. Bydd y golled mewn staff yn cael effaith sylweddol ar astudiaethau
myfyrwyr presennol. Yn 2023, rhaglen nyrsio Prifysgol Caerdydd oedd yr orau yng
Nghymru, a’r bumed orau yn y DU. Nid torri’r cwrs yw’r ateb, ac nid yw hynny,
ychwaith, er lles gorau gofal iechyd yng Nghymru. Mae angen cefnogi nyrsio i
fod yn opsiwn hyfyw ar gyfer gradd, trwy gynnig gwell cyllid bwrsariaeth i
fyfyrwyr.

Statws
Yn ei gyfarfod
ar 22/09/25 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 22/09/25.
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Penarth De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/07/2025