P-06-1513 Apêl: Bil Awtistiaeth Cymru 2019 (I’r Nifer Fach, Nid y Nifer Fawr)
P-06-1513 Apêl: Bil Awtistiaeth Cymru 2019 (I’r Nifer Fach, Nid y Nifer Fawr)
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Spencer Errol Grennan FRSA, ar ôl casglu 597 o lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Gwrthododd mwyafrif
yr Aelodau Llafur y Bil Awtistiaeth (Cymru), er ei botensial i wella bywydau
pobl awtistig yn sylweddol. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ailystyried ei safbwynt a blaenoriaethu hawliau ac anghenion unigolion
awtistig.
Peidiwch â gadael
i bobl awtistig gael eu hanwybyddu! Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i
wella eu bywydau. Llofnodwch nawr i fynnu newid a chefnogi hawliau unigolion
awtistig.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Roedd y Bil
Awtistiaeth (Cymru) yn cynnig amddiffyniadau hollbwysig i bobl awtistig, gan
gynnwys fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth, strategaeth
awtistiaeth fandadol, ac ymgyrch codi ymwybyddiaeth. Roedd y Bil yn cyd-fynd
â’r Ddeddf Hawliau Dynol, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, a
Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, gan
bwysleisio ymagwedd yn seiliedig ar hawliau at awtistiaeth.
Nid oes gan y Cod
Ymarfer presennol y mecanweithiau gorfodi a'r cosbau penodol sydd eu hangen i
sicrhau cydymffurfiaeth, gan adael unigolion awtistig yn agored i niwed. Mae
gwrthod y Bil yn gadael bwlch sylweddol o ran diogelu hawliau pobl awtistig a
mynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at
wasanaethau a chymorth.
Rydym yn annog
Llywodraeth Cymru i ailystyried y Bil Awtistiaeth (Cymru) a blaenoriaethu
anghenion pobl awtistig. Drwy ddeddfu’r ddeddfwriaeth hon, gall Cymru ddangos
ei hymrwymiad i gynhwysiant a llesiant ei holl ddinasyddion.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 14/07/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/07/2025.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2025