Adolygu Effeithiolrwydd Pwyllgorau yn y Chweched Senedd

Adolygu Effeithiolrwydd Pwyllgorau yn y Chweched Senedd

Gan weithio gyda phartneriaid allweddol, mae Fforwm y Cadeiryddion yn cynnal adolygiad o effeithiolrwydd pwyllgorau er mwyn llywio’r gwaith o sefydlu pwyllgorau yn y Seithfed Senedd, a'r cymorth a roddir iddynt.

Bydd yr adolygiad hwn yn adeiladu ar waith blaenorol ac yn ystyried tair thema eang, er mwyn nodi cryfderau ac a oes newidiadau i weithdrefnau ac arferion y Senedd a allai helpu i wella effeithiolrwydd pwyllgorau:

>>>> 

>>>Diwylliant pwyllgorau:

>*>*>*

***Ystyried arferion sydd wedi gweithio'n dda a lle y gellir gwneud gwelliannau o ran pwyllgorau'r Senedd, gan gynnwys tôn a deinameg y pwyllgorau, effeithiolrwydd argymhellion, a chysylltiadau â'r Llywodraeth; a

***Profiadau o ryngweithio â phwyllgorau gan gynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, materion fel monitro amrywiaeth a rhyngweithio yn newis iaith pobl.

<*<*<*

>>>Trefniadaeth busnes y pwyllgorau:

>*>*>*

***Archwilio manteision system bresennol y Senedd (defnyddio pwyllgorau polisi a deddfwriaeth â swyddogaeth ddeuol) o gymharu â system sy'n defnyddio pwyllgorau craffu ar bolisi a phwyllgorau Biliau cyhoeddus ar wahân; a manteision system sy'n gysylltiedig â threfniadaeth y Llywodraeth o ran cyfrifoldebau’r Gweinidogion;

***Amserlennu pwyllgorau mewn perthynas â busnes arall y Senedd; a

***Maint a chyfansoddiad pwyllgorau.

<*<*<*

>>>Y cymorth a roddir i Aelodau ar bwyllgorau, gan gynnwys:

>*>*>*

***Gweithio hybrid;

***Briffiau ymchwil; a

***Cymorth Cymraeg

<*<*<* <<<

Bydd Fforwm y Cadeiryddion yn cyflwyno adroddiad yn ystod gwanwyn 2026 ar y materion hyn.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2025

Ymgynghoriadau