NDM8923 Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU

NDM8923 Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU

NDM8923 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Llywodriaeth y DU yn cyhoeddi casgliadau ei hadolygiad o wariant ar 11 Mehefin.

2. Yn gresynu bod penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith anghymesur ar Gymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno bil tegwch economaidd sydd:

a) yn sicrhau cyllid teg i Gymru;

b) yn datganoli pwerau i greu bandiau treth incwm newydd; ac

c) yn cynyddu terfynau tynnu i lawr a phwerau benthyca yn unol â chwyddiant.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) mynd i’r afael â’r tanfuddsoddiad hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, ymrwymo i’r £4 billwn o gyllid canlyniadol HS2 a datganoli pwerau a chyllid dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru;

b) adfer y taliad tanwydd gaeaf fel darpariaeth gyffredinol a chael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn yn ddi-oed;

c) ad-dalu Llywodraeth Cymru yn llawn am effaith codiadau yswiriant gwladol cyflogwyr; a

d) cyflwyno treth ar gyfoeth, gan sicrhau bod y baich ar yr unigolion a’r corfforaethau sy'n gallu ysgwyddo cyfran decach o’r dreth gyffredinol a delir.

 

Math o fusnes: Dadl

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/06/2025