P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru
P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Jan Butler, ar ôl casglu 13,847 lofnodion ar lein a 169
lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 14,016 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae camlas Sir Fynwy
a Brycheiniog yn un o ddyfrffyrdd mwyaf prydferth a thawel y DU. Mae’n
ymdroelli drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thrwy lawer o gymunedau
gwledig a threfol, gan ymlwybro o Aberhonddu, drwy Dal-y-bont ar Wysg ac ymlaen
drwy Lanfa Goetre tuag at Gasnewydd. Mae’n hanfodol i’r trigolion a’r cymunedau
cyfagos, gan ddenu tua 3 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, sy’n gwneud cyfraniad
sylweddol i’r economi leol ac yn galluogi’r cymunedau hyn i ffynnu.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Ers ei sefydlu
drwy Ddeddf seneddol yn 1792, mae'r gamlas wedi dibynnu ar ddŵr sy’n cael ei dynnu o afon Wysg a'i llednentydd. Daw 80% o'r dŵr sydd ei angen arni o'r afon Wysg yn
Aberhonddu. Nid yw'r dŵr
yn cael ei 'lyncu' gan y gamlas, gan ei fod yn dychwelyd i'r afon unwaith y
bydd wedi cwblhau’r
daith. Tan yn ddiweddar, nid oedd angen trwydded i dynnu dŵr. Ers 200 mlynedd, gellid gwneud hyn yn
rhad ac am ddim. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn ei gwneud yn ofynnol i’r gamlas, a reolir gan Ymddiriedolaeth
Camlesi ac Afonydd Cymru (elusen), gael trwydded a chyfyngu ar y dŵr y mae’n ei dynnu. Heb gyflenwad dyddiol o ddŵr drwy ei lociau, bydd y gamlas yn mynd yn
anweithredol yn gyflym, a byddai cau yn anochel. Mae'n anodd dychmygu beth
fyddai’r
canlyniadau o ran cynnal bywoliaeth yn ein cymunedau, yr amgylchedd naturiol
a'r economi leol. Gall peidio â rheoli camlas arwain at fethiant trychinebus a dinistrio eiddo cyfagos.
Mae Dŵr Cymru a Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi nodi y byddant yn cyflenwi lefel gynhaliol o ddŵr, ond am gost afresymol na all yr elusen
ei fforddio.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd:
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2025