Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2026-27
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2026-27
Rhaid i Gomisiwn y
Senedd osod ei gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd
i ganiatáu i’r Pwyllgor Cyllid
graffu ar ei chynigion. Ar ôl i’r Pwyllgor gwblhau ei waith craffu, bydd y
Comisiwn yn cyhoeddi cyllideb derfynol, sydd i’w thrafod yn y Cyfarfod
Llawn cyn y bleidlais i’w chymeradwyo gan y Senedd cyfan.
Gosododd Comisiwn
y Senedd ei gyllideb
ddrafft ar gyfer 2026-27 (PDF 1.9MB) gerbron y Cynulliad ym mis Hydref
2025.
Mae’r Pwyllgor
wedi cyhoeddi adroddiad yn trafod ei waith Craffu ar
Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2026-27 (PDF, 4.2MB) ym mis Hydref 2025.
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2025
Dogfennau