P-04-423: Cartref Nyrsio Brooklands

P-04-423: Cartref Nyrsio Brooklands

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried a fyddai lleoli safle amwynder dinesig tua 30 metr o Gartref Nyrsio Brooklands yn tresbasu ar hawliau dynol preswylwyr y cartref.

Gwybodaeth ategol :  Mae staff Brooklands a pherthnasau’r cleientiaid yn anfodlon iawn.  Mae’r cyngor yn cynnig lleoli’r amwynderau dinesig o Ddinbych y Pysgod ger Cartref Nyrsio Brooklands. Rydym yn teimlo’n gryf y dylai’r preswylwyr dreulio’u diwrnodau olaf yn mwynhau heddwch a thawelwch, ac na ddylai sŵn, llygredd, traffig ac amhariad gan wylanod ac yn y blaen amharu arnynt.  Mae ein cleientiaid yn oedolion bregus nad ydynt yn gallu mynegi eu barn ac felly mae angen eich cymorth chi arnynt.  A hoffech chi dreulio gweddill eich bywyd â’r tip sbwriel yn gymydog i chi? Ni fyddem ni’n dymuno hynny.  Gofynnwn i chi helpu gyda’n deiseb a llofnodi isod.

Prif ddeisebydd:  Darren Umanee

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

 

Nifer y llofnodion:  115  Casglwyd dros 4484 o lofnodion gan ddeisebau cysylltiedig.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Angen Penderfyniad: 25 Hyd 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad