NDM8857 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yswiriant Gwladol y Cyflogwr
NDM8857 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yswiriant Gwladol y Cyflogwr
NDM8857 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnydd Llywodraeth y DU i
gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, sy'n dod i rym ar gyfer y flwyddyn
dreth 2025-26.
2. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y bydd y
cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn ei chael ar
elusennau, cwmnïau nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud
sylwadau ar frys i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd elusennau, cwmnïau
nid-er-elw a sefydliadau gwirfoddol Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus
yn cael eu cynnwys yn niffiniad Llywodraeth y DU o gyflogeion y sector
cyhoeddus a ddiffiniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac, o ganlyniad, y
byddant yn cael eu had-dalu am y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol
cyflogwyr.
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/03/2025