NDM8852 Dadl Plaid Cymru - Cyllid seilwaith rheilffyrdd
NDM8852 Dadl Plaid Cymru - Cyllid seilwaith rheilffyrdd
NDM8852 Heledd Fychan (Canol
De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros
Drafnidiaeth y DU mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru bod seilwaith rheilffyrdd
Cymru wedi dioddef o lefelau hanesyddol isel o wariant ar welliannau dros nifer
o flynyddoedd;
b) bod y tanariannu systematig hwn yn ychwanegol at gadw
cyllid canlyniadol HS2 yn ôl; ac
c) yn ôl dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn 2020, bydd
Cymru, o gymharu â’i chyfran o boblogaeth y DU a hyd llwybr y rhwydwaith
rheilffyrdd, yn wynebu diffyg o rhwng £2.4 biliwn a £5.1 biliwn mewn
cyllid i wella ein rheilffyrdd ar sail ymrwymiadau Llywodraeth y DU dros y
cyfnod rhwng 2019 I 2029.
2. Yn gresynu:
a) bod adroddiadau yn nodi bwriad Canghellor y DU i rewi
gwariant ar brosiectau rheilffyrdd newydd mawr tan ar ôl etholiad nesaf y DU, a
fyddai’n dwysau ymhellach y tanariannu systematig ar gyfer rheilffyrdd Cymru, a
hynny am o leiaf bedair blynedd arall; a
b) bod addewidion blaenorol Llywodraeth y DU ar seilwaith
rheilffyrdd, a oedd ynddynt eu hunain yn annigonol i wneud iawn am danariannu
hanesyddol, megis yr addewid i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, wedi
methu â chael eu gwireddu.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu ffigyrau wedi’u diweddaru ar y diffyg
mewn-fuddsoddiad i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru;
b) cadarnhau ei safbwynt y dylid ail-ddynodi HS2 yn
brosiect i Loegr yn unig ac y dylai Cymru gael y symiau canlyniadol yn unol â
ffigyrau a ddyfynnwyd gan Weinidogion presennol Llywodraeth y DU pan mewn
gwrthblaid; ac
c) ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros
Drafnidiaeth y DU i ofyn i’r symiau canlyniadol llawn gael eu rhyddhau i Gymru
a gwrthdroi lefelau isel o wariant ar welliannau.
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/03/2025