Gwasanaethau Canser yng Nghymru

Gwasanaethau Canser yng Nghymru

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Gwasanaethau Canser yng Nghymru: Adolygiad o’r dull strategol o wella amseroldeb diagnosis a thriniaeth ym mis Ionawr 2025, a'r ymateb dilynol gan Lywodraeth Cymru, cytunodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i gynnal ymchwiliad i wasanaethau canser yng Nghymru.

 

 

Sesiynau tystiolaeth lafar

 

Ø  Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth lafar gyda chynrychiolwyr Cynghrair Canser Cymru yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth 2025 a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf 2025.

 

Ø  Cynhaliodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gyda Llywodraeth Cymru yn ei gyfarfod ar 1 Mai 2025.

 

 

Gohebiaeth

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 2 Ebrill 2025 a derbyniwyd ymateb ar 22 Ebrill 2025. Trafododd y Pwyllgor yr ymateb yn ei gyfarfod ar 1 Mai 2025.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/03/2025

Dogfennau