Gwasanaethau offthalmoleg

Gwasanaethau offthalmoleg

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad byr i wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru, gan gynnwys ystyried:

 

>>>> 

>>>Diwygio sefydliadol ac effeithlonrwydd gwasanaethau: archwilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i integreiddio optometryddion gofal sylfaenol a chymunedol i’r model gwasanaeth gofal llygaid, gan ganolbwyntio ar ailgynllunio llwybrau atgyfeirio i wella mynediad cleifion, tra hefyd yn gwerthuso’r modd y mae polisïau’r llywodraeth yn cefnogi byrddau iechyd i wneud y newidiadau hyn, ac alinio arweinyddiaeth i ysgogi gwelliannau.

 

>>>Ehangu’r gweithlu a hyfforddiant: adolygu ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu capasiti hyfforddi, ehangu rolau optometryddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, a gwerthuso effaith Rhaglen Recriwtio Ryngwladol Cymru Gyfan ar brinder staff. Asesu’r modd y mae mentrau’r gweithlu’n cyd-fynd â’r Cynllun Gweithlu Cenedlaethol, ac effeithiolrwydd buddsoddiad i drawsnewid y gweithlu optometreg i leihau dibyniaeth ar ysbytai.

 

>>>Gwelliannau i ysbytai a seilwaith: adolygu cynnydd o ran uwchraddio cyfleusterau ysbytai, a mynd i’r afael â lleoedd sydd wedi dyddio, ymchwilio i oedi wrth roi systemau digidol – megis y cofnod cleifion electronig offthalmig a systemau atgyfeirio gofal llygaid – ar waith, ac asesu cyllid a chanlyniadau ar gyfer gwelliannau seilwaith mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Ymchwilio i effaith oedi wrth roi systemau digidol gwell ar waith, a’u gallu i ryngweithredu. Asesu cynlluniau i ateb y galw cynyddol mewn offthalmoleg, gan gynnwys defnyddio offer telefeddygaeth a deallusrwydd artiffisial i wella gofal.

 

>>>Rhwydweithiau clinigol a mynediad cyfartal at ofal: adolygu prosesau sefydlu rhwydweithiau clinigol i sicrhau gofal cyfartal ar draws rhanbarthau, gan fynd i'r afael â gwahaniaethau o ran darparu gofal a pherfformiad amseroedd aros. Gwerthuso dull Llywodraeth Cymru o ddosbarthu gwasanaethau a gweithlu rhanbarthol, a’r modd y gall rhwydweithiau clinigol wella cydweithio rhwng byrddau iechyd, a chanlyniadau cleifion. Hefyd, asesu effeithiolrwydd llwybrau gofal newydd wrth flaenoriaethu cleifion risg uchel, a defnyddio optometryddion yn y gymuned ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai cymhleth. Yn olaf, archwilio cydweithio rhwng byrddau iechyd a sefydliadau'r trydydd sector, megis y Llwybr Cefnogi Gofal Llygaid, er mwyn sicrhau cefnogaeth gyfannol i gleifion.

 

>>>Goruchwylio a rhoi ar waith: gwerthuso goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o ran rhoi’r strategaeth ar waith, gan gynnwys ymrwymiad arweinyddiaeth ar lefel byrddau iechyd. Asesu rôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru o ran cyflymu’r broses o gyflwyno systemau TG. Ymchwilio i’r modd yr eir i'r afael ag oedi ac aneffeithlonrwydd, a pha gosbau neu fesurau unioni sydd ar waith ar gyfer amserlenni a fethwyd.

<<< 

 

Adroddiad

>>>> 

>>>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 28 Tachwedd 2025.

>>>Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 15 Ionawr 2026.

>>>Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn am ymateb pellach i argymhellion yr adroddiad ar 9 Chwefror 2026.

>>>Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn ymateb i gwestiynau dilynol y Pwyllgor ar argymhellion yr adroddiad ar 24 Chwefror 2026.

<<< 

 

Gwaith dilynol

>>>> 

>>>Ar 30 Ionawr 2026, fe wnaethom ysgrifennu at randdeiliaid, gan wahodd sylwadau ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor.

Yn benodol, gwnaethom geisio barn ar y canlynol:

>*>*>*

***Camau brys a chamau dros dro: Mae Llywodraeth Cymru yn aml yn ymateb trwy ohirio penderfyniadau ac yn cysylltu camau gweithredu â threfniadau llywodraethu yn y dyfodol, heb nodi camau uniongyrchol i fynd i'r afael â risgiau fel colli golwg y gellir ei osgoi. A ydych chi'n meddwl bod ymateb Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu natur frys y materion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor yn ddigonol, neu a ydych chi'n credu bod camau y gellir eu gweithredu ar unwaith, ar goll?

 

***Trefniadau llywodraethu a goruchwylio: Ni dderbyniwyd yr argymhelliad i sefydlu bwrdd goruchwylio pwrpasol, gyda Llywodraeth Cymru yn gohirio’r mater nes bod diwygiadau llywodraethu yn dod i ben ym mis Ebrill 2026. Pa mor bryderus ydych chi ynghylch y diffyg strwythur goruchwylio clir yn ystod y cyfnod cyn cwblhau’r trefniadau llywodraethu newydd? Ydych chi'n meddwl bod risgiau ynghylch atebolrwydd neu ddarparu?

 

***Buddsoddi ac Adnoddau: Gohiriodd Llywodraeth Cymru benderfyniadau ar sawl un o’r argymhellion neu fe’u cyfeiriodd at gyrff eraill fel Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn enwedig ynghylch argymhellion ar fuddsoddi mewn gofal eilaidd a hyfforddi’r gweithlu. Gwnaeth hynny heb ymrwymo adnoddau newydd na gosod amserlenni. A yw'r ymateb yn dangos digon o eglurder ac ymrwymiad ynghylch y buddsoddiad a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg o'ch safbwynt chi?

 

***OpenEyes a Chyflenwi Digidol: Dim ond yn rhannol y derbyniodd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad ynghylch OpenEyes. Oes gennych chi hyder yn y cynlluniau cyflawni digidol presennol (yn enwedig OpenEyes), neu a ydych chi'n teimlo bod angen mwy o dryloywder a gwaith craffu ar hyn o bryd?

 

***Data, Adrodd ar Niwed, a Pherfformiad: Mae'r ymateb yn cefnogi egwyddorion megis adrodd ar is-arbenigeddau a threfn adrodd ar niwed ond mae'r ddarpariaeth ar gyfer cerrig milltir, amserlenni neu ddisgwyliadau cydymffurfio yn gyfyngedig. Pa mor bwysig yw hi i Lywodraeth Cymru osod cerrig milltir a disgwyliadau clir ar gyfer adrodd data ac adrodd am niwed? Oes yna fylchau yn y ddarpariaeth hyd yma?

<*<*<*

 

Ymatebion rhanddeiliaid i ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor:

>>>> 

>>>FOP01 Optometreg Cymru

>>>FOP02 RNIB Cymru

>>>FOP03 Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

>>>FOP04 Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr

>>>FOP05 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/02/2025

Dogfennau