NDM8830 Dadl Plaid Cymru - Gaza

NDM8830 Dadl Plaid Cymru - Gaza

NDM8830 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ailddatgan:

a) condemniad y Senedd o ymosodiadau Hamas ar sifiliaid Israel ar 7 Hydref 2023 ac ymateb milwrol Israel, sydd wedi arwain at farwolaethau mwy na 60,000 o bobl Palesteina ac wedi golygu bod angen cymorth dyngarol brys ar filiynau o sifiliaid yn Gaza yn groes i gyfraith ryngwladol; a

b) cefnogaeth y Senedd ar gyfer cadoediad parhaol, mynediad llawn i sefydliadau dyngarol, dychwelyd gwystlon a charcharorion, a heddwch cyfiawn a pharhaol drwy ddatrysiad dwy wladwriaeth.

2. Yn galw ar Lywodraeth y DU:

a) i gefnogi gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol wrth ddwyn i gyfrif arweinwyr Israel a Hamas sydd wedi eu cyhuddo o gyflawni troseddau rhyfel;

b) i gondemnio fel glanhau ethnig gynigion yr Arlywydd Trump i ddiboblogi Gaza; ac

c) i atal yr holl allforion arfau i Israel yn unol â chyfraith ryngwladol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i adolygu trefniadau caffael a buddsoddiadau’r sector cyhoeddus i sicrhau bod safonau moesegol yn cael eu cynnal;

b) i ymrwymo rhagor o gefnogaeth ddyngarol i Gaza; ac

c) i gefnogi cymunedau yng Nghymru sydd â chysylltiadau â Phalesteina ac Israel.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at farwolaethau sifiliaid diniwed Israel a Phalesteina a'r effaith ddynol ddinistriol o ganlyniad i'r gwrthdaro yn Gaza yn dilyn ymosodiadau terfysgol dan arweiniad Hamas a chymryd gwystlon ar 7 Hydref 2023. 

2. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau bod cymorth dyngarol yn cael ei ddarparu ar frys i'r rhai mewn angen.

3. Yn ailddatgan cefnogaeth y Senedd i ryddhau'r holl wystlon sy'n weddill, sicrhau cadoediad parhaol, a chael datrysiad ateb dwy wladwriaeth er mwyn sicrhau heddwch parhaol yn y rhanbarth.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Gwelliant 2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

safbwynt llywodraeth y DU bod rhaid i sifiliaid Palesteina allu dychwelyd i’w cartrefi ac ailadeiladu eu bywydau. 

Gwelliant 3 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 2.

Gwelliant 4 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

i gefnogi rheolaeth y gyfraith a gwaith y Llys Troseddol Rhyngwladol.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2025