NDM8827 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'
NDM8827 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr adroddiad 'Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru'
NDM8827 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r adroddiad a
gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol Nyrsio Cymru, Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau
yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod pobl
yn ysbytai Cymru yn cael eu trin mewn amgylchedd nad yw’n ddiogel, yn urddasol
nac yn dderbyniol.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithredu wyth argymhelliad yr adroddiad yn llawn.
Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) yr adroddiad Rhoi
diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Goleg Nyrsio
Brenhinol Cymru a’i argymhellion; a
b) nad yw Llywodraeth
Cymru yn cymeradwyo rhoi gofal neu driniaeth reolaidd i bobl mewn amgylcheddau
anghlinigol neu anaddas.
2. Yn cydnabod bod
adegau pan fo’r GIG yn wynebu pwysau eithriadol, a all olygu bod pobl
weithiau'n aros am amser hirach mewn rhannau o’r system ysbytai.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i barhau i weithio gyda'r GIG ac awdurdodau lleol i wella’r sefyllfa o
ran rhyddhau pobl o'r ysbyty yn amserol ac i gefnogi gwasanaethau gofal
cymunedol uwch i ddarparu dewisiadau amgen yn lle mynd i'r ysbyty lle bynnag y
bo modd.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2025