Craffu ar Gyfrifon - Llywodraeth Cymru 2023-24

Craffu ar Gyfrifon - Llywodraeth Cymru 2023-24

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn gyfrifol am drafod Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol ar 19 Chwefror 2025 i graffu ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

 

Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd y Pwyllgor at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Ymatebodd yr Ysgrifennydd Parhaol ar 1 Ebrill 2025; trafododd y Pwyllgor y llythyr yn ei gyfarfod ar 1 Mai 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ‘Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2023-24’ ddydd Llun 15 Medi 2025. Cafwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 27 Hydref 2025.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/02/2025

Dogfennau