Gwella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr
Gwella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr
Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ddarn byr o waith sy'n canolbwyntio ar wella ysgolion a chyrhaeddiad dysgwyr.
Ar 3 Chwefror
2026, ysgrifennodd
(PDF 266KB) y Pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg gan dynnu sylw at
y materion a godwyd yn ystod y gwaith hwn.
Y meysydd o
ddiddordeb ar gyfer y gwaith hwn:
>>>>
>>>Dyfodol
trefniadau gwella ysgolion a sut mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a
phartneriaid perthnasol yn cydweithio i ddarparu’r safonau addysg uchaf posibl.
>>>Deilliannau
addysgol dysgwyr a bylchau mewn cyrhaeddiad rhwng grwpiau o ddisgyblion.
>>>Ffactorau
sy’n effeithio ar gynnydd addysgol megis absenoldeb disgyblion, amddifadedd,
cyllid a chapasiti’r gweithlu.
<<<
Casglu
tystiolaeth
Ysgrifennodd
(PDF 105KB) y Pwyllgor at sefydliadau penodol yn gofyn am dystiolaeth
ysgrifenedig.
Yn dilyn y cais
am dystiolaeth ysgrifenedig, cawsom y canlynol:
>>>>
>>>Ymateb
gan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – 17 Ebrill 2025 (Saesneg yn unig)
(PDF 363KB)
>>>Ymateb
gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – 14 Ebrill 2025 (PDF 394KB)
>>>Ymateb
gan Gyngor Abertawe (Saesneg yn unig) – 30 Ebrill 2025 (PDF 425KB)
>>>Ymateb
gan Gyngor Sir Ynys Môn – 9 May 2025 (PDF 170KB)
>>>Ymateb
gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Saesneg yn unig) – 11 May 2025
(PDF 101KB)
>>>Ymateb
gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru –
20 May 2025 (PDF 321KB)
<<<
Cynhaliodd y
Pwyllgor ddigwyddiad bwrdd gron preifat ddydd Iau 25 Medi yn gwahodd
cynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas
Cyfarwyddwyr Addysg, Penaethiaid a Chonsortia Rhanbarthol. Nodyn
(PDF 116KB) ar y digwyddiad i randdeiliaid.
Ddydd Iau 6
Tachwedd aeth
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sesiwn graffu cyhoeddus.
Cyn y sesiwn, darparodd Llywodraeth Cymru bapur
ysgrifenedig (PDF 2MB). Yn ystod y sesiwn, cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet
i ddarparu rhywfaint
o wybodaeth ychwanegol (PDF 225KB). Yn dilyn y sesiwn hon, cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu
(PDF 108KB) at Gadeirydd Reading Reform Foundation UK yn gofyn am farn am Banel
Arbenigol Llythrennedd Llywodraeth Cymru. Cafodd y Pwyllgor ymateb
(PDF 220KB) ar 20 Ionawr.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/03/2025
Dogfennau