NDM8818 Dadl Plaid Cymru - Addysg uwch
NDM8818 Dadl Plaid Cymru - Addysg uwch
NDM8818 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyhoeddiad
gan Brifysgol Caerdydd i dorri 400 o swyddi a therfynu sawl cwrs gradd gan
gynnwys hanes yr henfyd, ieithoedd modern a chyfieithu, cerddoriaeth, nyrsio, a
chrefydd a diwinyddiaeth.
2. Yn gresynu at:
a) methiant Llywodraeth
Cymru i sefydlu model ariannu cynaliadwy i brifysgolion yng Nghymru er gwaethaf
rhybuddion dro ar ôl tro gan y sector dros nifer o flynyddoedd;
b) effaith y cyhoeddiad
ar staff a myfyrwyr, ar yr economi, ac ar enw da Cymru fel cenedl ddysgu; ac
c) y pwysau ariannol
cynyddol yn sgîl penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau Yswiriant
Gwladol cyflogwyr a newidiadau i reolau fisa i fyfyrwyr rhyngwladol.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) datblygu, yn unol â'i
gyfrifoldeb datganoledig, strategaeth addysg uwch newydd i ddiogelu swyddi a
gosod y sector ar sail ariannol gynaliadwy;
b) comisiynu asesiad
effaith o'r cynlluniau i gau'r ysgol nyrsio ar lefelau staff nyrsio'r GIG; ac
c) cyhoeddi gwerthusiad
o'r pwysau ariannol sy'n wynebu Prifysgolion Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod Prifysgol
Caerdydd wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol 90 diwrnod sy'n cynnwys cynigion i
dorri tua 400 o swyddi academaidd.
2. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol
prifysgolion fel sefydliadau angori yn ein cymunedau a'n heconomi;
b) effaith sylfaenol
ystod o ffactorau ar brifysgolion ledled y DU, gan gynnwys Brexit, newidiadau i
ofynion fisa, a chyfraddau llog a chwyddiant uwch; ac
c) cyllid ychwanegol yn
ystod y flwyddyn i brifysgolion yng Nghymru sy'n mynd â chyfanswm y cyllid
grant i dros £200 miliwn yn 2024-25, a'r incwm ychwanegol a gynhyrchir
drwy godi'r cap ar ffioedd dysgu.
3. Yn galw ar Brifysgol
Caerdydd i:
a) sicrhau bod
egwyddorion partneriaeth gymdeithasol yn ganolog i'r broses ymgynghori, fel bod
lleisiau undebau llafur, staff a myfyrwyr yn cael eu clywed; a
b) cefnogi staff a
myfyrwyr y mae'r cynigion yn effeithio arnynt, gan gynnwys galluogi'r holl
fyfyrwyr cofrestredig i gwblhau eu cyrsiau.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i nodi atebion cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg uwch;
b) gweithio gyda
phrifysgolion Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ar ddarpariaeth
allweddol; ac
c) gweithio gydag Addysg
a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau nad yw unrhyw benderfyniadau a wneir gan
Brifysgol Caerdydd yn effeithio ar nifer y nyrsys a hyfforddir yng Nghymru.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Yn
is-bwynt 2 (c), dilëu popeth ar ôl 'cyflogwyr'.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2025